Angladdau
Mae ein staff proffesiynol a hynaws yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth angladdol o safon uchel ond fforddiadwy i deuluoedd mewn cyfnod o brofedigaeth.
Ein nod yw bod yno'n gefn wrth i chi wneud trefniadau, a gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu wrth i chi dalu teyrnged er cof am eich ceraint.
Mae'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn cynnwys:-
- Arweiniad cyflawn ar bob agwedd o'r trefniadau angladdol
- Gwasanaeth personol teimladwy 24 awr
- Dylunio a phrintio trefn gwasanaeth
- Rhoi datganiad yn y papurau newydd
- Ymdrin â rhoddion
- Arlwyo
- Trefnu angladdau o flaen llaw
- Amrywiaeth eang o eirch, addurniadau blwch, gynau ac addurniadau mewnol
- Capel Gorffwys Breifat ar gyfer gwasanaeth angladdol
Diolch am ymweld â'n gwefan ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.
Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau. Os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.
Yn yr Adran Hon
Newyddion
Awst 2008
Lansio ein safwe newydd - Mewn ymdrech i wella’r modd yr ydym yn cyfathrebu gyda’n cwsmeriaid a chwsmeriaid newydd, mae Henry Jones Cyf. wedi lansio safwe newydd....mwy
